Y Cinio

MORGAN HOPKINS (Hefin), EMYR WYN (Rol) ac ALUN ap BRINLEY (Iwan)

Cyfarwyddwr / Director BETHAN JONES

Cynllunydd / Designer CARYS TUDOR

CAST: EMYR WYN (Rol), MORGAN HOPKINS (Hefin), ALUN ap BRINLEY (Iwan), DEWI RHYS WILLIAMS (Cadno), DELYTH WYN (Ruth)

Cynhyrchiad 'Dalier Sylw' a deithiodd trwy Gymru, Gwanwyn 1995 / A 'Dalier Sylw' production that toured Wales, Spring 1995.

BROLIANT

Comedi fachog newydd a leolir yng nghinio blynyddol Clwb Rygbi Cwmbrain. Cawn gwrdd â Cadno, maswr a chapten y clwb, sy'n gwybod ble y ganwyd pob aelod o dim Cymru am yr ugain mlynedd diwethaf. Ond 'dyw e ddim yn gwybod ble y ganwyd ei fab diweddaraf! Cawn gyfarfod â Hefin, y prop, sy'n gobeithio cael tlws 'Chwaraewr y Flwyddyn'. Cawn weld a fydd Rol Bach, yr Ysgrifennydd, yn gallu sôn am rywbeth heblaw pwyllgor y clwb. A darganfod pam fod Iwan, yr ail reng, wedi tyfu barf. Ac i goroni'r cwbwl, am y tro cyntaf yn hanes y clwb, mi fydd yna fenyw yn bresennol. Yn wir, mi fydd Ruth yno fel siaradwraig wadd. Beth fydd ymateb y bois i'w sylwadau di-flewyn-ar-dafod? Dyma eich gwahodd i flasu Y Cinio...

BLURB

An incisive new comedy set in the annual dinner of the Cwmbrain Rugby Club. We meet Cadno, outside half and club captain, who knows where each member of the Welsh team during the past twenty years were born. But he hasn't got a clue where his latest son was born! We get to know Hefin, the prop, who hopes to pick up the 'Player of the Year' award. We'll see if Rol Bach, the Secretary, can talk about something else, rather than the finer points of the club committee. And we'll discover why Iwan, the second row, has grown a beard. And to top it all, for the first time in the club's history, there'll be a female present. Indeed, Ruth will be there as guest speaker. How will the lads react to her no-holds-barred comments? This is your invitation to taste Y Cinio (The Dinner)...

Following its success in 1995, Dalier Sylw re-staged ' Y Cinio' (The Dinner) in Spring 1998. This was also in response to requests from Welsh and Drama departments of Secondary Schools in Wales since 'Y Cinio' is a study piece on the WJEC's GCSE Drama syllabus.

"...lashings of laughter and entertainment..." - Western Mail

CAST FOR 1998 TOUR: EMYR WYN (Rol), MARC ROBERTS (Hefin), ALUN ap BRINLEY (Iwan), IWAN JOHN (Cadno), EINIR SION (Ruth)

"LAWER, LAWER GWAITH FE CHWARDDAIS HYD DDAGRAU" (Gwyn Griffiths, Y CYMRO)

"SEVERAL, SEVERAL TIMES I LAUGHED 'TIL I CRIED" (Gwyn Griffiths, Y CYMRO)

ADOLYGIAD (Lowri Gwilym, BARN 27)

ROMP YSTYRLON

Hanfod comedi dda yw amseru, ac mae amseru taith Y Cinio yn eithriadol o dda - fe agorodd y sioe yn ystod yr wythnos yr ennillodd tim Cymru y llwy bren ar y cae rygbi. Mae drama Geraint Lewis yn astudiaeth dymhorol o'r 'gwryw Cymreig'; ynddi mae'r awdur yn cyplysu cyflwr y tim cenhedlaethol gyda chyflwr y genedl - a chyflwr yr ego gwrywaidd.

Cinio Blynyddol Clwb Rygbi Cwmbrain yw man cychwyn y ddrama hon, a menyw yw'r siaradwr gwâdd am y tro cyntaf yn hanes y Clwb. Ond mae hwn hefyd yn ginio arbennig am fod y cyn-chwaraewr 'Double Top' (Alun ap Brinley) yn dychwelyd i'r ardal, wedi llyncu cyfrol Robert Bly Iron John - llyfr sy'n annog dynion i 'ddarganfod y dyn gwyllt y tu fewn iddyn nhw'. Problem dynion, yn ôl Bly - a Double Top - yw eu bod wedi colli cysylltiad â'i gilydd, â'u tadau, â'u gwreiddiau cyntefig. Felly bant â Double Top a'i ffrindiau i'r goedwig yn oriau mân y bore i brofi eu gwroldeb ac i ail-ddarganfod y cwlwm sydd rhwng dynion.

Ar hyd y ffordd dysgwn am broblemau'r criw ffrindiau: 'Cadno' (Dewi Rhys Williams) sydd mewn trwbwl gyda'r Child Support Agency, problemau rhywiol Hefin (Morgan Hopkins) sy'n deillio o steroids, a diffygion perthynas Rol Bach (Emyr Wyn) â'i wraig; mae gwraig Double Top wedi'i adael yntau. Hynny yw cawn gatalog o broblemau emosiynol dynion y nawdegau, a gweld eu hanallu - a'u diffyg ewyllys - i'w datrys.

I fenyw, gallai gwylio sioe o'r fath deimlo fel clustfeinio ar alar preifat teulu arall. Ond nid dyna'r effaith o gwbl. Mae'r ysgrifennu a'r perfformio yn llawn hiwmor da, a'r cymeriadau'n llwythog o hunan-eironi. Mae chwaraewr y flwyddyn, Cadno, yn 'ffaelu handlo'i gwrw' - erbyn pump o'r gloch y bore mae'n chwydu, bob yn ail â llafarganu enwau tim y Grand Slam yn 1971. Mae'r prop, Hefin - dyn y steroids - mewn dillad merch erbyn diwedd y ddrama. Mae defodau gwrol Double Top yn troi'n ffars, ac yntau'n diweddu yn yr afon. Erbyn y diwedd nid 'Iron john' yw symbol y dynion hyn o gwbl, eithr y bwgan brain sydd yn logo i Glwb Rygbi Cwmbrain: 'y dyn gwellt, nid y dyn gwyllt'.

Mae'r gomedi hon yn llawn gags a jôcs un-llinell, ond mae yna hefyd linellau cofiadwy iawn a chwestiynau dwys. Mae'r ddrama sy'n dechrau'n hwyliog gyda nodau 'Yfwn ni ddwsin o boteli cyn bo'r nos wedi dod i ben' yn gorffen gyda seiniau trasig y 'Lacrimosa' o Requiem Mozart - gan bwysleisio bychander ac aneffeithiolrwydd dyn, a chodi'r ddrama i lefel athronyddol. Yn ogystal â chynnig noswaith o chwerthin braf mae'r awdur a'r gyfarwyddwraig (Bethan Jones) wedi llwyddo i agor trafodaeth ar yr argyfwng gwrywaidd. Ac yn ôl y ddrama hon dyw pethe ddim yn argoeli'n dda.

Mae tipyn o'r cyfrifoldeb am y digwydd yn y ddrama yn cwympo ar ysgwyddau'r unig fenyw sydd ynddi - Ruth Francis y siaradwraig wâdd (Delyth Wyn). Ei geiriau beirniadol hi yn y Cinio sy'n gyrru'r dynion ar eu taith o hunan-ymchwilio. Fel llawer ohonom ni fenywod, mae'n rhaid i hon fod yn bopeth i bawb, rhyw 'bobun' o ferch: yn bishyn yn y Clwb Rygbi, yn glust i wrando ar broblemau Rol Bach drwy'r nos, ac yn fam sy'n cynnig lloches iddynt i gyd yn y bore - hyn heb sôn am geisio dadansoddi problemau'r dynion a chynnig atebion iddynt. Mae cyflawni'r rôl yma yn gofyn llawer gan un cymeriad, ac mae'r ychydig wendidau yn y sioe, yn fy marn i, yn ymwneud â chymeriad Ruth.

Wedi dweud hyn, roedd rhaid cael menyw yn y ddrama, oherwydd mai mewn perthynas â menywod y mae'n rhaid i'r dynion weithio mas llawer o'u problemau'u hunain. Ym marn Ruth Francis mae'r dynion hyn yn cuddio rhag realiti yn eu byd ffantasi ar y cae rygbi. Yr ateb i'w problemau yw gonestrwydd emosiynol.

Mae hon yn ddrama gyfoethog ar sawl lefel ac mae'r actorion yn ei chwarae gydag afiaith. Gwaith Bethan Jones oedd cael cydbwysedd rhwng y comig a'r difrifol. O safbwynt y cast, disgyblaeth oedd yr unig broblem, meddai hi, am fod y pedwar dyn yn mynd i drafod rygbi trwy'r amser...Ond os yw llwyddiant yr elfennau digri weithiau'n troi'r sioe hon yn 'romp', mae'n romp ystyrlon a thymhorol iawn.

REVIEW (Lowri Gwilym, BARN)

MEANINGFUL ROMP

The essence of good comedy is timing, and the timing of Y Cinio ,The Dinner's tour is particularly good - the show opened during the week that the Welsh team won the wooden spoon on the rugby field. Geraint Lewis's play is a timely study of the 'Welsh male'; in it the author compares the state of the national team with that of the nation itself - and the state of the male ego.

The play is set in the Cwmbrain RFC Annual Dinner, with a woman as guest speaker for the first time in the club's history. But this is also a special dinner as the ex-player 'Double Top' (Alun ap Brinley) has returned to the fold, having swallowed the contents of Robert Bly's book Iron John - a book that encourages men 'to find the wild man inside'' The problem with men, according to Bly - and Double Top - is that they've lost any meaningful contact with each other, with their fathers, with their primitive roots. So off they go, Double Top and his friends, to the wood in the early hours of the morning to prove their manliness and to rediscover the common thread that unites all men.

Along the way we get to know about the crew of friends' various problems: 'Cadno' (Dewi Rhys Williams) is in trouble with the Child Support Agency, Hefin (Morgan Hopkins) has sexual problems, emanating from his use of steroids, and Rol Bach (Emyr Wyn) has some relationship problems with his wife; whilst Double Top's wife has left him. In short, we have a catalogue of male emotional problems in the nineties, and see their inability - and lack of will - to solve them.

To a woman, watching such a show could feel like eavesdropping on the private grief of another family. But this isn't the effect at all. The writing and performing is full of good humour and the characters loaded with self-irony. The player of the year, Cadno, 'can't handle his beer' - by five in the morning he's vomiting, whilst intermittently calling out the names of the players in the Grand Slam team of 1971. The prop, Hefin - the steroids man - is dressed in a female's clothes by the end of the play. Double Top's valiant rituals turn farcical, with him eventually ending up in the river. By the end it's not 'Iron John' that is these men's symbol at all, rather it's the scarecrow on the logo of Cwmbrain RFC:'the straw man, not the strong man'.

This comedy is full of gags and one-liners, but it is also full of truly memorable lines and profound questions. The drama that playfully begins with the notes of the Welsh folk song 'We'll drink a dozen bottles before the night is out' ends with the tragic sounds of the 'Lachrymosa' from Mozart's Requiem - emphasizing man's smallness and ineffectuality, elevating the play to a philosophical level. As well as offering a night of healthy laughter the author and the director (Bethan Jones) have succeeded in opening a debate on the male crisis. And according to this play things don't look too good.

A lot of the responsibility for the action of the play falls on the shoulders of the only female in it - Ruth Francis (Delyth Wyn). It is her harsh words during the Dinner that send the men on their journey of self-discovery. Like several of us women, she has to be a bit of everything to everyone, a kind of 'everyman' or 'everywoman' figure: a good looker in the Rugby Club, an ear to listen to Rol Bach's problems throughout the long night, and a mother who offers a refuge for them all in the morning - without even mentioning trying to analyze the men's problems and offering them solutions. Fulfilling this role is asking a great deal of one character, and the very few weaknesses in the show, in my opinion, revolve around the character of Ruth.

Having said that, there had to be a woman in the show, because it is through their relationship with women that the men need to work out so many of their problems. In Ruth Francis's view the men are hiding from reality in the fantasy world of the rugby field. The answer to their problems is emotional honesty.

This is a rich play on several levels and the actors play it with zest. Bethan Jones's job was to get the right balance between the comic and the serious. Regarding the cast, discipline was the biggest problem, she says, because the four men would be talking rugby all the time....But if the success of the funny elements sometimes turn this play into a 'romp', it is a very timely and meaningful romp.

ADOLYGIAD (Eleri Sion, GOLWG)

GEM DDRAMATIG

Eleri Siôn a chomedi newydd Dalier Sylw am rygbi

I rai dynion, nid gêm yw rygbi ond ffordd o fyw, a chipolwg ar stereoteipiau'r gêm yng Nghymru yw canolbwynt y gomedi Y Cinio gan Geraint Lewis.

Cipolwg ar agweddau y gwryw Cymraeg yw prif ddiddordeb yr awdur. Mae cymeriadau gwrywaidd y ddrama'n cael anawsterau i drafod eu hemosiynau a'u profiadau personol ac, yn sgil hyn, maen nhw'n cuddio y tu ôl i'r bêl hirgron drwy geisio bod yn 'macho'.

Gwneud hwyl am eu pennau mae'r awdur a dyma yw cryfder y ddrama. Rol Bach (Emyr Wyn) yw'r Ysgrifennydd byrgorff, hunabwysig sy'n adnabyddus ym mhob clwb; Capten y clwb yw Cadno (Dewi Rhys Williams), sy'n cenhedlu mor aml ag y mae Cymru'n colli; Double Top (Alun ap Brinley) yw'r llipryn addysgiadol, sydd ar dabledi 'antidepressant' ar ôl i'w wraig ei adael, a ffwl ifanc y clwb yw Hefin Ellis (Morgan Hopkins). Yr unig beth sydd ar ei feddwl e, ar wahân i rygbi, yw meddwi a menywod. Darlun doniol ond realistig o wrthdaro rhwng y cymeriadau yma yw'r gomedi.

Cefndir y gomedi yw cinio blynyddol Clwb Rygbi Cwmbrain, ac yn ôl y traddodiad mae noson fawr o feddwi o flaen y cymeriadau. Ond am y tro cyntaf, menyw (Delyth Wyn) yw'r siaradwraig wadd. Hi yw catalydd y ddrama. Yn ei haraith, mae'n datgan gwirioneddau, yn cwestiynu'r criw, ac mae'r bêl rygbi roedd y cymeriadau'n cuddio y tu ôl iddi'n raddol colli'i gwynt, yn mynd yn fflat ac yna'n diflannu gan ddatgelu eu gwir bersonoliaethau.

Naturioldeb y cynhyrchiad a ennillodd fy mhleidlais i. O'm mhrofiad o grwydro o un clwb i'r llall, gallaf gadarnhau ein bod yn cael cip ar y math o ddynion sy'n crynhoi ynghyd i greu clwb rygbi. Roedd y perfformiadau'n rhai grymus yn enwedig gan Emyr Wyn a Morgan Hopkins (er yr edrychai Emyr Wyn yn debycach i ddyn o Dde America na De Cymru!) Wedi dweud hynny, roedd gan yr actorion sgôp oherwydd prentisiaeth y sgript. Nid chwerthin o'r pen ond chwerthin o'r bol oedd yn adleisio drwy neuadd Ysgol Rhydfelen.

Nid yw'n sioe i blant o dan ddeuddeg mlwydd oed, oherwydd taw adlewyrchiad o iaith a hiwmor amgylchfyd y gêm a geir. Nid yw hyn yn feirniadaeth ond yn hytrach yn rhybudd. Yr unig feirniadaeth y gallaf ei mynegi yw i'r diweddglo gael ei or-ddramateiddio. Mi wnaeth hyn dynnu rhywfaint oddi wrth gyfanrwydd y perfformiad - ond barn un person yw hyn.

Pob hwyl i'r daith ac rwy'n siwr y caiff mwy o lwyddiant na thim presennol Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ne'r Affrig ymhen deufis!

'A HEARTY BREW OF COURSE RUGBY BANTER, A DASH OF SEXUAL POLITICS AND A SQUIRT OF COD PHILOSOPHY TO KEEP IT FERMENTING"

(Western Mail, 1995)

ADOLYGIAD (o'r sgript, a gyhoeddwyd gan Dalier Sylw) (Huw Roberts, BARN)

Y cinio yn Y Cinio yw gwledd flynyddol dynion Clwb Rygbi Cwmbrain, sy'n rhoi cyfle am ymdriniaeth ddeifiol o ddoniol â'r elfen machismo a ystyrir yn nodwedd o glybiau dynion. Creodd Geraint Lewis gymeriadau hynod o wrthgyferbyniol a digri. Gall pob un ohonom weld, ymysg ein cydnabod, ddynion fel Rol Bach canol oed, calon y clwb, wyllt fel matsen ond ofn ei wraig; Hefin yn fawr ar steroids, dal dig at neb, hawdd ei berswadio; Iwan, honco bost, neu gyda gweledigaeth? A'r un sydd â'i gymeriad yn gryno yn ei lysenw, Cadno. Strôc oedd rhoi merch i annerch y cinio blynyddol. Mae gan y dramodydd reddf at dynnu'r gorau o bob golygfa ac wedyn ei chloi yn daclus. Cefais fy hun yn chwerthin yn uchel droeon wrth ddarllen ei waith a rhyfeddu at ei ddawn.

Yn anffodus collais y cyfle i weld perfformiad o'r ddrama yn ystod y Gwanwyn eleni. Ond ar ôl mwynhau ei darllen hoffwn fod wedi gweld ymdriniaeth Bethan Jones â hi; yn enwedig Act 3 a 4 - 'y bore wedyn' bondigrybwyll. Gall rhywun ddychmygu'r posibiliadau, ond hoffwn fod wedi gweld effaith dehongliad y gyfarwyddwraig ar naws a thempo y chwarae.

(Y CINIO, Argraffiad newydd, SHERMAN CYMRU 2008, £8-95)