Dysgu Hedfan

CBCDC yn Flaenllaw mewn Drama Flaengar Newydd

Drama newydd sbon CBCDC ar gyfer 2005, mewn cydweithrediad â Sgript Cymru yw Dysgu Hedfan. Bydd y ddrama yn agor yn Theatr Bute y Coleg ar Chwefror yr 8fed 2005 cyn mynd ar daith i Aberteifi.Fel gyda holl gomisiynau CBCDC, ysgrifennwyd y ddrama gyfoes newydd hon yn arbennig ar gyfer ein myfyrwyr actio Cymraeg ac fe’i cyfarwyddir gan Elen Bowman. Dywed Catrin Llwyd, Uwch Ddarlithydd Actio (Cymraeg) CBCDC:"Mae’r profiad o gael drama wedi ei hysgrifennu’n arbennig ar gyfer y myfyrwyr, a’r cyfle i weithio mor agos gyda’r awdur yn natblygiad y darn, yn amhrisiadwy ac yn gwbl unigryw yma yng Nghymru. Mae’r awduron bob amser yn barod i gefnogi gwaith y myfyrwyr cynllunio a’r rheoli llwyfan fel bod yr holl fyfyrwyr yn elwa ac yn cael cyfle i ymdrin â’r gwaith gwreiddiol."Dywedodd y dramodydd Geraint Lewis, a fu’n rhan o greu’r stori ar gyfer wythnosau pen-blwydd Pobol y Cwm yn 30 oed ac oedd â’i nofel ‘Daw Eto Haul’ ar restr Llyfrau’r Flwyddyn yr Academi yn ystod 2004, bod y comisiwn yn un gwahanol iawn. ‘Roeddwn yn gwybod yn gynnar yn y gwaith y byddwn yn ysgrifennu ar gyfer tair menyw yn eu hugeiniau cynnar. Ond mewn sawl ffordd, yn lle cyfyngu pethau agorodd bosibiliadau i mi, fe’m llywiodd mewn cyfeiriad arbennig ac o bosib gwnaeth i mi feddwl am ysgrifennu am bynciau megis yfed sbri a gysylltir â’r diwylliant ‘laddette’, na fyddwn efallai wedi ymdrin â hwy oni bai am hyn. Does dim amheuaeth ei bod yn fenter gwerth chweil a gobeithio y bydd y myfyrwyr yn cael blas o sut beth ydyw i weithio yn y theatr broffesiynol.’Yn ogystal â chomisiynu dramâu Cymraeg newydd, mae CBCDC hefyd wedi comisiynu nifer o gyfieithiadau Cymraeg, gan gynnwys 'A View from the Bridge' Dros Bont Brooklyn, gan Arthur Miller a ‘Doll's House' T_ Dol, gan Henrik Ibsen, a gyfieithwyd gan Sion Eirian ac sydd nawr wedi eu dewis fel testunau gosod ar gyfer meysydd llafur TGAU a Safon Uwch.Dysgu Hedfan

Gan Geraint Lewis

Cyfarwyddwyd gan Elen Bowman

CAST: EMILY EVANS (Lowri), CARYL MORGAN (Helen), EMMA-JANE ATSON (Catrin)

Dyddiau coleg, dyddiau gorau eich bywyd, meddai nhw.

Yn wir, mae Catrin a Helen yn mwynhau bywyd i'r eithaf tra yn y coleg. Mae un o’r dynion ym mywyd Helen yn hyfforddwr hedfan, tra bod Catrin wedi cael blas ar frys-ddetio. Pan ddaw Lowri, myfyrwraig arall sy'n gyfnither i Catrin, i fyw gyda nhw does bosib bod yna hyd yn oed fwy o hwyl ar y gorwel?

I'r gwrthwyneb, oherwydd mae gan Lowri olwg hollol wahanol ar fywyd. Ac yn bwysicach mae ganddi gyfrinach fydd yn chwalu bywydau'r tair ohonynt yn deilchion...

Dydd Mawrth 8 – Dydd Iau 10 Chwefror 2005 am 7.30pm

Perfformiad prynhawn Dydd Iau 10 Chwefror 2005 am 2.30pm

Theatr Bute, CBCDC

£6, £4 a £2 consesiynau

Swyddfa Docynnau CBCDC 029 20391391

www.rwcmd.ac.uk

PREVIEW

RWCMD IS AT THE FOREFRONT OF CUTTING-EDGE NEW WELSH DRAMA

Dysgu Hedfan (Learning to fly) is RWCMD’s brand-new drama for 2005, in association with ‘sgript cymru’. The play opens in the College's Bute Theatre on February 8 2005 before touring to Cardigan.

As with all RWCMD’s commissions, this contemporary new play by Geraint Lewis and directed by Elen Bowman, has been written specifically for our welsh language acting students. Catrin Llwyd, RWCMD’s Senior Lecturer in Acting (Welsh language), says

"The experience of having a play written specifically for the students and working so closely with the author in the development of the piece is absolutely invaluable and completely unique here in Wales. The authors are always ready to support the work of the student designers and stage managers so all students benefit and have access to original work."

Playwright Geraint Lewis, whose recent credits include storylining the 30 year centenary anniversary weeks of ‘Pobol y Cwm’ and having his novel ‘Daw Eto Haul’ listed as one of the Academi Books of the Year during 2004, says that the commission was very different. ‘I knew early on that I’d be writing for three females, early twenties. But in many ways rather than restricting things it opened up possibilities for me. It channelled me in a certain direction and possibly made me write about subjects, such as the binge drinking associated with a laddette culture, that I might not have otherwise approached.’ ‘It’s certainly a worthwhile venture and hopefully the students will get a flavour of what it’s like to work in the professional theatre.’

In addition to commissioning new Welsh Language drama, RWCMD has also commissioned a number of welsh translations including, 'A View from the Bridge' Dros Bont Brooklyn, by Arthur Miller and ‘Doll's House' Ty Dol, by Henrik Ibsen, translated by Sion Eirian which have now been selected as set texts for the GCSE and 'A' Level syllabus.

Dysgu Hedfan (Learning to fly)

By Geraint Lewis

Directed by Elen Bowman

College days are the best of your life, or so they say.

Indeed, Catrin and Helen live their lives to the full whilst studying. One of the men in Helen’s life, Steve, is a flying instrucor whilst Catrin develops a taste for speed dating. When another student, Catrin’s cousin Lowri, comes to live with them, surely there are more hilarious nights out on the horizon?

This is not the case, however, as Lowri has a different outlook on life. And more importantly she harbours a secret that will eventually shatter all three of the women’s lives...

Tuesday 8 – Thursday 10 February 2005 @ 7.30pm

Matinee Thursday 10 February 2005 @ 2.30pm

Bute Theatre, RWCMD

£6, £4 & £2 concessions

RWCMD Box Office 029 20391391

www.rwcmd.ac.uk

Saturday 12 February 2005 @ 7.40pm

Theatr Mwldan, Cardigan

£7, £5 concession (additional £3 discount for group bookings of 5+)

Box Office 012398 621200

www.mwldan.co.uk