Meindiwch Eich Busnes

Monolog dychanol ar sut i lwyddo mewn busnes. Perfformiwyd yng Ngwesty Churchills, Llandaf o flaen aelodau'r fenter Cwlwm Busnes, Caerdydd. Yn ogystal, perfformiwyd 'Meindiwch Eich Busnes' yn Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr 1996.

Cyfarwyddwr / Director BETHAN JONES

CAST: DEWI RHYS WILLIAMS (Wyn Morgan)

A satirical monologue on how to succeed in business. Performed in the Churchills Hotel in Llandaff in front of the business community in Cardiff. Also performed at the Bro Dinefwr National Eisteddfod in 1996.

ADOLYGIAD (Meg Elis, BARN)

Dewi Rhys Williams eto fyth – ddim mor wahanol o ran persona i Huw Gorslas yn Y Groesffordd, ond mae’n gwneud y cymeriad cystal, crintachlyd fuasai cwyno. A wir, tydan ni i gyd yn nabod y cymeriad? Cymro newydd, ifanc, siwt smart, mewn PR neu farchnata, gwybod y termau Cymraeg newydd i gyd (ac efo Geiriadur yr Academi i brofi hynny). Gwybod digon i ddarlithio ar y pwnc, hyd yn oed – mae’r boi yma wedi cael gweledigaeth. Yn ei eiriau ei hun – Lasarus ar y ffordd i Ddamascus. Ai fi ydi’r unig un a welodd hwn yn ddisgynnydd uniongyrchol i Ifas y Tryc?

REVIEW (Meg Elis, BARN)

Dewi Rhys Williams yet again - not all that different to the persona of Huw Gorslas in Y Groesffordd (The Crossroads), but he does it so well it would be mean to complain. And indeed, don't we all recognize the character? A new, young Welshman, smart suit, in PR or marketing, knows all the new Welsh terms (and has the Academy Dictionary to prove it). Even knows enough to lecture on the subject - this guy has had a vision. Or in his own words - Lazarus on the road to Damascus. Was I the only one to see him as a direct descendant to Ifas y Tryc?

(Ifas y Tryc - Evans the Truck - was a straight talking character back in the seventies, created by the playwright WS Jones and played by Stewart Jones)