Theatr/Theatre‎ > ‎

Ysbryd Beca

Ysbryd Beca: Drama Lwyfan

YN Y GORLLEWIN GWYLLT MAE COWBOIS WEDI CYMRYD Y GYFRAITH I'W DWYLO EU HUNAIN...

Cyfarwyddwr/Director   BETHAN JONES
Cynllunydd/Designer    SEAN CROWLEY
CAST:     EMYR WYN (Dai), PHYL HARRIES (Dilwyn), RHYS ap WILLIAM (Rhys)

Ar daith gan gwmni 'sgriptcymru' HYDREF 4-27 2001

BROLIANT
Yn dilyn cynnydd mewn torcyfraith ym mhentref Tregors mae aelodau'r clwb snwcer lleol wedi mynd ati i warchod eu cymuned. Un noson o haf, gwelwn dri aelod ar ddyletswydd ar lawr siop gornel, yn cadw golwg ar dy deliwr cyffuriau honedig.
Drama newydd gan awdur Y Cinio ac Y Groesffordd, sy'n ymhel â natur cyfiawnder a'r argyfwng ym mywyd cefn gwlad.....

BLURB
Following an increase in crime in the village of Tregors members of the local snooker team have decided to defend their community. One summer's night we see three members on duty on the upper floor of the corner shop, keeping a watchful eye on a supposed drugs dealer.
A new play from the writer of Y Cinio and Y Groesffordd which deals with the nature of justice and the crisis facing rural communities.

IN THE WILD WEST COWBOYS HAVE TAKEN THE LAW INTO THEIR OWN HANDS....
 
RHAGOLWG (GOLWG, Medi 2001)

AR Y STRYD

Y MIS NESA', FE FYDD SGRIPT CYMRU YN TEITHIO CYMRU GYDA DRAMA SY'N TRAFOD VIGILANTES A CHYMUNED SYDD WEDI CYRRAEDD PEN EI THENNYN. MAE'R AWDUR YN YMATEB I FYWYD GO IAWN...

Mae'r ddrama Ysbryd Beca gan Geraint Lewis yn amserol ar sawl cyfri'. Mae'n olrhain grwp o ddynion mewn pentre' gwledig sy'n mynd ati i warchod eu cymuned eu hunain yn dilyn cynnydd mewn torcyfraith. Maen nhw wedi methu cael y gefnogaeth gan yr heddlu a'r gwleidyddion.
Ond i awdur y ddrama, dim ond un symtom o ddirywiad ein cymunedau gwledig yw'r cynnydd mewn trosedd.
Achos vigilantes Pontrhydfendigaid yw un o'r digwyddiadau sydd wedi ysbrydoli Geraint Lewis. Ac yntau'n un o feibion Tregaron yng Ngheredigion, dyw pentre'r Bont ond tafliad carreg i ffwrdd.
Y llynedd, fe gafodd dau ddyn drugaredd gan farnwr yn Llys y Goron Abertawe ar ôl curo deliwr cyffuriau honedig yn y pentre'. Fe gafodd y ddau gefnogaeth gan eu cyngor cymuned, ac fe nododd y barnwr ei fod yn cydymdeimlo â'r amgylchiadau a arweiniodd at yr ymosodiad.
Mae Ysbryd Beca wedi ei lleoli mewn ystafell uwchben siop y gornel ym mhentre' Tregors. Mae tri aelod o'r tim snwcer lleol 'ar ddyletswydd' yn cadw llygad ar gartre' dyn sy'n cael ei amau o ddelio mewn cyffuriau. Mae bywyd perchennog y siop eisoes ar chwâl wedi marwolaeth ei ferch oherwydd cyffuriau. Ond ar ben hynny, mae Dai Siop yn ddyn canol oed sydd wedi aros yn ei unfan ac mae'r oes sydd ohoni wedi ei adael ar ôl. Roedd pethau yn arfer bod yn ddu a gwyn. Bellach mae wedi ei ddrysu'n lân, ac yn teimlo bod moesoldeb wedi mynd trwy'r ffenest.
"Dyw e ddim yn deall y byd rhagor" meddai Geraint Lewis. "Mae'n teimlo bod ef a'i debyg wedi cael eu diystyrru gan y sustem. Mae e wedi trio cael deiseb i gael plismon yn y pentre', ond does neb yn cymryd sylw. Mae wedi llythyru â'r Prif Gwnstabl ynglyn â'r cyffurie. Mae hwnnw wedi ateb yn ôl yn dweud bod nhw'n targedu trefi mwy a chyffuriau Class A, a bod dim adnoddau ganddyn nhw i drafferthu â llefydd bach."
Ond mae mwy i'w rwystredigaeth na hynny. Fe brynodd Dai y siop gornel gan feddwl byddai'n sicrhau bywoliaeth iddo nes ei bensiwn. Roedd hynny cyn dyfodiad yr archfarchnadoedd mawr a globaleiddio cynyddol. Wrth i gymunedau gwledig ddirywio'n raddol mae Dai yn poeni a fydd y dwyn cyson o'i siop yn achosi iddo golli'r cwbwl trwy fethu â chael yswiriant.
"O''n i eisie dewis rhywle oedd yn cynrychioli dirywiad pentre'," meddai Geraint Lewis. "Mae Dai yn cofio cyfnod lle roedd yr holl bentre' yn troi o amgylch y siop, felly mae'n anodd i rywun sydd wedi byw trwy gyfnod fel'na. Byddai neb wedi meiddio dwgyd a thorri i mewn i siop y pentre flynyddoedd yn ôl achos oedden nhw'n gwybod y bydden nhw'n cael crasfa."
Mae'n beth eironig i'w ddweud yn y flwyddyn sefydlwyd mudiad newydd sbon i warchod cymunedau gwledig Cymraeg, ond fe fu bron i Geraint Lewis roi'r teitl 'Cymuned' i'r ddrama gafodd ei sgwennu sbel cyn dechrau cecru ieithyddol eleni.
"Yr un ddrama yw hi," meddai Geraint Lewis, sy'n croesawu mudiad Cymuned gan bod "angen shiglo ein gwleidyddion o ran be sy'n digwydd yng nghefn gwlad."
Mae'n amlygu'r syniad o berthyn yn y ddrama gyda'r holl gyfeiriadau at bobol sydd wedi cael eu henwi ar ôl eu ffermydd neu eu tai.
Mae'r teitl newydd yn adlais o awydd Merched Beca i ymladd yn ôl, ac o'r pwysau ar Dai wrth iddo ddygymod â marwolaeth ei ferch, Beca. Ond mae yna ffin denau rhwng ymladd yn ôl a mynd yn rhy bell ac mae Dai yn cael ei dynnu rhwng rhesymeg a greddf.
"Mae'n ffenomen sy'n gyffredin i Gymru gyfan," meddai Geraint Lewis. "Er bod y ddrama yn weddol dafodieithol a wedi ei leoli mewn un man arbennig - sef Ceredigion - dw i'n siwr y bydd yn taro tant â sawl ardal arall."



Drama Cefn Gwlad

Bu’r ddrama Ysbryd Beca ar daith drwy Gymru ym mis Hydref. Mae ELINOR WYN REYNOLDS yn bwrw golwg ar yr hyn a ysgogodd y ddrama.

Yn ôl y dramodydd, Geraint Lewis, roedd yn rhaid iddo ysgrifennu ei ddrama ddiweddara’, Ysbryd Beca, am ei bod hi wedi bod yn corddi oddi mewn iddo ers peth amser. ‘Roedd dau achos wedi bod yn y papure yn lled ddiweddar, na’th i fi ddechre meddwl. Un oedd achos ym Mhontrhydfendigaid pan na’th bois lleol gymryd y gyfraith i’w dwylo nhw eu hunain ac mi fuodd achos llys yn Abertawe, er bod y Cyngor Cymuned wedi’u cefnogi nhw. Yr ail achos oedd un Tony Martin, y dyn gafodd ei garcharu am ladd rhywun na’th dresmasu ac ymosod arno fe a’i eiddo. Y cwestiwn dda’th i ‘meddwl i oedd, beth yffach o’n nhw fod i neud?’

Hanes tri dyn o wahanol genedlaethau sy’n cadw gwyliadwriaeth mewn ystafell uwchben siop er mwyn cadw llygad ar ddyn sy’n cael ei amau o werthu cyffuriau, yw’r ddrama. Mae’r tri yn aelodau o glwb snwcer lleol ac yn ofni fod bywyd yn mynd â’i ben iddo yn eu patshyn bach nhw o’r byd. Does gan yr heddlu ddim diddordeb yn eu hachos, felly maen’ nhw’n gwneud y gwaith plismona eu hunain. Mae tipyn o ysbryd gwrthryfelgar Merched Beca’n fyw yng nghefn gwlad Cymru, felly. Wrth gwrs, mae cryn drafod ar bob math o bethau yn ystod eu gwylio; a chaiff popeth dan haul ei wyntyllu. Daw’r byd i gyd trwy ddrws yr ystafell ar y noson honno.

Mae’r argyfwng sydd yn nghefn gwlad wedi codi sawl cwestiwn ym meddwl Geraint Lewis, ac at bwrpas y ddrama hon mi oedd torcyfraith yn ffordd mewn i’r stori. ‘Dyw’n meini prawf moesol ni o fewn cymdeithas ddim mor glir ag oedden nhw’n arfer bod. Y’n ni bellach yn byw mewn cyfnod lle nad yw pethau’n ddu a gwyn a dyna mae’n pobl ifanc ni’n gyfarwydd ag e nawr, yr ansicrwydd yma.’

Mae Geraint wedi mynnu rhoi synnwyr lle pendant yn ei ddrama, gan ddefnyddio tua deugain o enwau llefydd ynddi. Ac er nad yw’r ddrama yn symud o’r ystafell uwchben y siop, mae yna deimlad o bentref ac o gymuned ac o berthyn yma. Fel mae’n digwydd, un o deitlau cynnar y ddrama oedd Cymuned, gan fod y ddrama yn cyffwrdd â phroblemau mewnfudo ac allfudo, sy’n gweddnewid a chwalu cymunedau’n rhacs, fel y gwyddom ni’n rhy dda.

Dewisiodd Geraint ddefnyddio agweddau tair cenhedlaeth wahanol ar gyfer y ddrama, gan ddewis gosod tri chymeriad ar y llwyfan i leisio’r safbwyntiau gwahanol. Roedd her ymhlyg yn yr ysgrifennu, sef ysgrifennu o geg y tri chymeriad yn gredadwy. ‘Mae cymeriad Dai yn teimlo fod y byd wedi symud mla’n ac wedi’i ad’el e ar ôl, mae’n llawn rhwystredigaeth ac yn dipyn o gymeriad truenus. Cafodd ei ddifreinio gan y system wleidyddol ac mae’n teimlo ei fod yn iawn iddo weithio y tu allan i’r system. Mae’n teimlo fod y ffactore sy’n dylanwadu ar ei fywyd yn rhai global, ac mae’n methu gwneud dim am y peth. Gweld pethau’n ddu a gwyn mae Dai.’

‘Cymeriad gwahanol yw Dilwyn, sydd ychydig bach yn iau. Mae e’n teimlo fod y gair “gwleidyddiaeth” wedi myhnd yn air brwnt. Bachan sy’n hoff o ishte ar y ffens yw Dilwyn, dyw e ddim ishe trafod dim, yn hytrach, mae’n well ganddo fe frwsho popeth dan y carped. Un sy’n dueddol o weld dwy ochr y stori ond sy’n methu gwneud penderfyniad ar sail hynny wedyn.’

‘Rhys yw’r ienga’ o’r tri. Boi ifanc sy’n aros ei gyfle i ddianc o gefn gwlad. Mae ei ganllawiau moesol e’n ddierth i’r ddau arall. Dyw e’n gweld dim byd o’i le ar gymryd cyffuriau ambell waith, mae’n rhan o fywyd. Mae ei olwg e ar y byd yn wahanol i’r ddau arall.’

Mae’n debyg fod elfennau o Geraint Lewis ymhob un o’r tri, ond gobeithiodd hefyd y byddai pobl yn gweld elfennau ohonyn nhw eu hunain yn y ddrama. Mi deithiodd y ddrama trwy Gymru ac i ardaloedd cefn gwlad. Codi cwestiynau yw pwrpas yr awdur yn y ddrama, ‘Mae gymaint o gwestiyne i’w gofyn, a wy ddim yn si_r os o’s ‘da fi’r atebion chwaith. Pethe fel y syniad o gywirdeb gwleidyddol yn erbyn synnwyr cyffredin, odi hynny wedi mynd yn rhemp? Neu a yw pobl cefn gwlad jyst yn gul?’ Rhaid dal i holi’r cwestiynau, yn ôl yr awdur, gan obeithio, rhyw ddydd y down ni o hyd i atebion. ‘Deimles i fod Ysbryd Beca yn amserol iawn o ystyried yr hyn sy’n digwydd yng nghefn gwlad – mae’n bwysig ‘sgrifennu am bethe sy’n corddi tu fewn. O’dd hwn yn digwydd nawr, ac o’n i’n teimlo fod yr amser yn iawn. Fwynheuais i ‘sgrifennu’r ddrama’n ofnadw’. Wy’n mwynhau ‘sgrifennu beth wy’n sgrifennu ar y pryd – os nad wy i’n mwynhau, pwy ddishgw’l i’r gynulleidfa joio.’

awdur:ELINOR WYN REYNOLDS 
cyfrol:465, Hydref 2001

Comments