Rhyddiaith/Prose‎ > ‎

DawEtoHaul

Daw Eto Haul

NOFEL (2003 Gwasg Carreg Gwalch, £5-95)

RHAGOLWG (Non Tudur, GOLWG)

Mae prif gymeriad nofel ddiweddara' Geraint Lewis yn 'fethiant'. Dyna sy'n creu'r hiwmor, meddai'r awdur...

METHU YN Y DDINAS

"Dathliad o fywyd dinesig" yw un o'r nofelau ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn eleni, er syndod i'r awdur ei hun. Ond hollol fwriadol yw'r siarad cignoeth am ryw, boed hynny'n PC ai peidio. Er fod Bryn James, prif gymeriad Daw Eto Haul gan Geraint Lewis, yn anhapus â'i fywyd carwriaethol a'i waith afreolaidd fel ecstra, darlun gweddol gadarnhaol a gawn o fywyd y brifddinas.
"Dw i wastad yn cynllunio'n ofalus cyn dechrau" meddai'r awdur, syn dod o Dregaron yng Ngheredigion ond sy'n byw yng Nghaerdydd ers bron i ugain mlynedd ac sy'n dweud bod elfennau hunangofiannol yn y nofel.
"Ges i sioc oherwydd taw dathliad o fywyd dinesig yw e. O'n i ddim wedi ei gynllunio fe felly. Do'n i ddim wedi cynllunio sôn am y Bae ac ati. Oedd e wastad yn mynd i fod yn ddathliad yn yr ystyr mai un o themau'r nofel yw cyfeillgarwch."
Yn y nofel, does gan Bryn James fawr o obaith ei 'gwneud hi' fel cynifer o'i gyfoedion 'llwyddiannus' sy'n eistedd yn y bocsus moethus yn gwylio gêmau rhyngwladol tim rygbi Cymru. Ac yntau bron yn 40 oed, gwaith ecstra achlysurol sydd ganddo, ar gyfres dditectif lle mae'n agor drysau i'r prif gymeriadau.
"Mae e ar y cyrion yn fwriadol" meddai Geraint Lewis, "achos mae'r hiwmor yn aml yn deillio o'r rhwystredigaeth yna o fod ar y cyrion. Oedd e'n benderfyniad pwrpasol i gael e y math o berson sy'n agor drysau i bobol eraill yn hytrach na mynd drwyddyn nhw. Os ydych chi'n gwneud rhywun yn rhy llwyddiannus, does dim brwydr, oes e?"
Mae Geraint Lewis yn yn sgriptio ar gyfer y teledu ac wedi sgrifennu nifer o ddramâu, fel Y Cinio a Dosbarth, drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol 2002. Ac, fel rhai dramodwyr adnabyddus eraill o'i flaen - Sion Eirian, Roger Williams a Meic Povey - mae'n sgrifennu drama gomisiwn Sgript Cymru ar gyfer y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Bydd y myfyrwyr yn perfformio Dysgu Hedfan ddechrau mis Ionawr. "Mae'n beth da" meddai Geraint Lewis, "mae'n gomisiwn iawn, ac mae'r coleg yn elwa achos mae'r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn drama newydd."
Dyw'r awdur ddim yn pryderu am y ffaith bod y rhan fwya' o brif gymeriadau Daw Eto Haul - dynion yn eu tridegau hwyr sy'n hoffi yfed a chymryd rhan yng nghwis eu tafarn leol - yn siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod am eu dyheadau a'u gorchestion rhywiol.
"Fe wnes i ddrama o'r blaen, Y Cinio, ac oedd pobol yn licio'r gonestrwydd o glywed dynion yn siarad â'i gilydd," meddai Geraint Lewis. "Dw i ddim yn or-hoff o PC. Rhaid i chi fod yn onest 'da'ch cymeriad. Mae'n gymeriad rhwystredig i raddau, er ei fod e'n gallu edrych ar bethau yn y pen draw yn gadarnhaol. A dyna yw arwyddocâd y teitl."
Mae hi hefyd yn stori gariad, meddai. 
"Mae'n stori eitha' traddodiadol yn yr ystyr 'na. O'n i mo'yn i'r nofel fod yn gadarnhaol, gobeithio, er bod Bryn yn diodde' o'r felan ac yn digalonni mewn arddull mor sych. O'n i'n gobeithio bod y stori'n dangos bod rhywbeth annisgwyl yn aml yn dod rownd y gornel i godi'ch calon chi."
Tregors, enw'r pentre' ffug lle y magwyd y prif gymeriad yw'r elfen fwya' hunangofiannol, meddai.
"Mae'n ardal bendant ac yn ardal dw i'n gyfarwydd â hi. Dwi wedi colli fy rhieni, a mi o'n i'n gallu cydymdeimlo â'r elfen 'na o gau'r drws am y tro ola' gyda thy teuluol. Eto chi'n defnyddio'r pethe fel hyn, a jyst ryw dwtshys yma a thraw sy'n seiliedig ar brofiad go iawn, ond mae e'n brofiad eitha' cyffredin, gyda phobol sy' wedi symud i'r ddinas - mae fel ryw ddeuoliaeth yn bodoli."
X oedd nofel ddiwetha' Geraint Lewis, a oedd yn dipyn mwy "astrus" meddai, ac a oedd wedi golygu llawer yn fwy o ymchwil iddo.
"Dw i'n credu es i'n ddwl bared gyda'r ffurf" meddai Geraint Lewis. "Dw i'n licio'r cynfas eang sydd gyda nofel - chi'n gallu bod yn unrhyw le. Ond mae hon mwy dealladwy, am wn i. O'n i mo'yn sgwennu rhywbeth lled-ddoniol, a rhywbeth nad oedd dim gormod o waith meddwl, y math o lyfr dw i'n licio'i ddarllen."



ADOLYGIAD Aled Islwyn (Taliesin Cyf122, Haf 2004)

BRON YN YSTRYDEBOL?

DAW ETO HAUL
Geraint Lewis
Gwasg Carreg Gwalch £5.95

Be sydd o'i le ar y gair 'teth', ys gwn i? Dyma'r ail nofel gyfoes imi ei darllen yn ddiweddar lle caiff 'nipl' ei ddefnyddio yn lle'r gair Cymraeg? Pam? Ni welaf ddim o'i le ar y gair cynhenid Cymraeg. Yn wir, mae'n fwy nag addas i'm tyb i, ar y glust ac ar y llygad. Mae 'teth' yn gryno a chymwys ac mae i'w sain twt fwy nag arlliw o'r gludiog a'r synhwyrus. Ac am y lluosog, gwell peidio â sôn! Tra bo 'niplau' yn swnio fel rhyw gornel dienaid o grombil injan car, mae 'tethi' yn glafoeri o gnawd a thynerwch a chynhaliaeth bywyd yn ei holl ryferthwy. Mae ymwrthod Geraint Lewis â'r gair bach swynol hwn yn rhyfeddod annisgwyl, gan ei fod at ei gilydd yn cofleidio bywyd yn ei gyfanwaith mewn llifeiriant llafar o Gymraeg naturiol.
Tyfodd y nofel hon arnaf wrth iddi fynd rhagddi. Gyda'i chefndir lled gyfryngol a'i thoreth o gymeriadau, suddodd fy nghalon braidd wrth ymbalfalu drwy'r bennod neu ddwy gyntaf o feddwl taw un arall o'r nofelau nawddoglyd hynny am y 'werin datws go iawn' yn dod i'r brifddinas ac yn lambastio Cymry Cymraeg dosbarth canol y ddinas oedd hon am fod. Ond buan y trechwyd fy amheuon gan lais dilys a difyr yr awdur.
Erbyn cyrraedd helynt y ci a laddwyd ac a guddiwyd mewn bag plastig du o dan y sinc - peidiwch â gofyn! Darllenwch trosoch eich hun i gael blas go iawn y drychineb - mae Geraint Lewis o'r diwedd wedi gosod ei stamp ei hun ar arddull a naws y nofel. Er y byddai ar ei hennill o gael ei thocio a'i golygu'n fwy manwl, â'r awdur â ni'n hyderus trwy flwyddyn helbulus yn hanes ei brif gymeriad.
Nofel gyfoes iawn yw hon, gan taw 2002 yw'r flwyddyn. Brynmor yw'r prif gymeriad. Brodor o Dregors (Tregaron dan enw arall) a roddodd heibio ei yrfa golegol i weithio mewn siop yng Nghaerdydd a byw yno'n weddol ddigyfeiriad, mae'n ymddangos, tan iddo ddechrau cael gwaith fel ychwanegolyn ar gyfres deledu o'r enw Angel.
Mae ganddo dri mêt triw - Phil, Iwan a Lloyd. Rheswm arall i'm calon suddo ar y dechrau. Mewn nofelau Cymraeg mae gan fois fel Bryn wastad fêts y maen nhw'n treulio tudalennau yn llymeitian ac athronyddu yn eu cwmni. Ond, er y dechreubwynt ystrydebol, fe'm henillwyd unwaith eto gan wreiddioldeb ac eangfrydedd Geraint Lewis.
Hel nosweithiau cwis yn nhafarndai'r ddinas yw dileit y tri hyn. Ydyn, maen nhw'n meddwi weithiau, ond mae eu gwenwyn a'u dychan fel arfer wedi eu hanelu atynt hwy eu hunain, wrth yfed ac ymgecru eu ffordd o gwis i gwis. Lloyd yw'r unig gymeriad cyflawn o'r tri. Ef yw meddyg Bryn, yn ogystal â bod yn ffrind iddo, ac mae'r berthynas gyfrin rhwng claf a meddyg yn rhoi arlliw wahanol i'w perthynas.
Yn raddol datgela Geraint Lewis ei hun fel awdur sy'n gallu mynd dan groen ymwneud pobl â'i gilydd gyda chryn ddyfnder a chyfrwystra. Digwydd yr un peth wrth ddarlunio perthynas Bryn â Jo a Bethan hefyd. Mae'n dechrau'n arwynebol - ystrydebol, bron - a dim ond yn raddol y daw'n glir ei fod yn gweld yn ddwfn ac yn gwau ei ddeunydd yn glos. Y perygl gyda'r strategaeth hon, wrth gwrs, yw fod y nofel yn mynd i golli ei darllenwyr cyn i'r cawl ddechrau tewhau, fel petai. Heb sôn am ddechrau twymo!
Disgrifir hon yn y broliant ar y clawr cefn fel 'nofel ddoniol'. Tybed nad ymdrech i farchnata ar draul y gwir yw hyn? Oes, mae yna hiwmor, ond nid nofel ddoniol mohoni yn ystyr nofelau Tom Sharpe neu David Nobbs. Hiwmor ysgafn, tafod-yn-y-boch sydd yma gan fwyaf, a hwnnw'n deillio o bersonoliaeth hawddgar a difalais Bryn. Nid yw gweledigaeth y nofel na'i strwythur yn gynhenid ddoniol.
Mae blwyddyn y nofel yn cwmpasu paratoadau Blair a Bush i ymosod ar Irac, twf Cymuned (a elwir yn Gwarchod yma) a hyd yn oed golygyddol pryfoclyd Simon Brooks yn Barn (Meddwl yma!) ar ddiffyg dylanwad Cymry Cymraeg Caerdydd. Ymateba Bryn i bob un ohonynt a chyfunir ei daith bersonol trwy'r flwyddyn â'r darlun ehangach o gwrs y byd.
Rhaid nodi rhai rhagoriaethau cyn cloi. Yn ddieithriad bron, mae paragraffau olaf pob pennod yn batrwm o sut i sicrhau fod y darllenydd yn mynd i barhau i ddarllen. Syrthiais am y bachyn bob tro, a oedd yn help garw i'm llusgo drwy'r penodau cyntaf.
Mae'r bennod lle mae Bryn dan ddylanwad 'E' yn gampus. Doniolwch go iawn - a dagrau yn y diwedd.
Rhaid codi fy nghap i'r awdur hefyd am ei ddisgrifiadau gorchestol o ryw. Weithiau maen nhw'n lled smala. Gan amlaf yn annwyl a chariadus. Wastad yn fanwl a dirodres o onest. Trueni am y 'niplau'. Tethi tro nesaf, efallai!

Review: Aled Islwyn (Taliesin Vol122 Summer 2004)

KEEPING ABREAST OF STEREOTYPES

What, I wonder, is wrong with the Welsh word 'teth'? This is the second contemporary novel that I've recently read where the word 'nipl' is used instead of the Welsh word. Why? I don't see anything wrong with the indigenous Welsh word. Indeed, in my opinion it is more than appropriate, for the ear as well as the eye.'Teth' is concise and suitable and its neat sound has more than a hint of the sticky and sensitive. And as for the plural, well the least said the better! Where 'niplau' sounds like some soul-less corner deep in the bowels of a car engine, 'tethi' postively drips with a fleshy tenderness and implies a food supply in all its wondrous torrent. Geraint Lewis's refusal to use this little word comes as an unexpected surprise as on the whole he embraces life to the full in a verbal flow of natural Welsh.
The more I read this novel, the more I warmed to it. With its slightly media background and abundance of characters my heart sank somewhat as I struggled through the first few chapters thinking it might be another one of those patronizing novels about the werin coming to the capital city and lambasting its Welsh-speaking middle class inhabitants.But my doubts were quickly erased by the entertaining and authentic voice of the author.
By the time I reached the trouble with the dog that was killed and hidden in a black plastic bag under the sink - don't ask! Read it yourself to get the full flavour of the disaster - Geraint Lewis had at last stamped his own style on the feel of the novel. Even though it would gain from a few cuts and more precise editing the author confidently takes us through a troubled year in the life of its main character.
This is a highly contemporary novel, as the year is 2002. The main character is Brynmor. A native of Tregors (Tregaron under another name) he put aside any college aspirations in order to work in a shop in Cardiff and has seemingly had a fairly unfocussed existence, apparently, up until the time he gets work as an extra in a television series called Angel.
He has three good mates - Phil, Iwan and Lloyd. This was another reason for my heart to sink initially. In Welsh language novels men like Bryn always have mates with whom they spend pages and pages drinking and philosophizing in their company. But, despite this stereotypical starting point, I was once again won over by Geraint Lewis's originality and magnanimity.
These three enjoy passing their time in the city's pub quizzes. Yes, they do get drunk sometimes, but their poisonous satire is usually aimed at themselves while they drink and argue from quiz to quiz. Lloyd is the fully rounded character of the three. He is Bryn's doctor, as well as his friend, and that mystical relationship between doctor and patient adds another dimension to their relationship. 
Gradually Geraint Lewis reveals himself to be an author who can get under the skin of his characters' relationships with each other with considerable depth and cunning. The same thing happens with his portrayal of the relationship between Bryn and Jo and Bethan too. It starts superficially - cliched, almost - and only gradually it becomes apparent that he sees things deeply and weaves his material tightly. The danger with this strategy, of course, is that the novel might lose its readers before the soup has thickened, as it were. Let alone warmed up!
It is described in the blurb on the back cover as a 'humorous novel'. I wonder if this is an attempt at marketing at the expense of the truth? Yes, there is humour, but it's not a humorous novel in the same way as a Tom Sharpe novel or a David Nobbs. It is a light, tongue-in-cheek humour that we have here mainly, which springs from Bryn's amiable personality. Neither the novel's vision or structure is intrinsically humorous.
The year in which the novel is set encompasses Blair and Bush's preparations for the invasion of Iraq, the growth of the Cymuned movement (here called Gwarchod) and even Simon Brooks's provocative editorial in the magazine Barn (Meddwl here!) on the lack of influence among Welsh speaking Cardiffians. Bryn reacts to each of them and his personal journey through the year is combined with the wider context of world events.
Some excellent qualities need to be noted before ending. Almost without exception the final paragraphs of each chapter is a model of how to ensure that the reader keeps reading. I fell for the hook every time, which was a great help in dragging me through the first chapters.
The chapter where Bryn is under the influence of 'E' is excellent. Real humour - and tears at the end.
I must raise my cap to the author too for his masterly descriptions of sex. At times they're fairly droll. More often fond and loving. Always detailed and unostentatiously honest. Shame about the 'niplau'. 'Tethi' next time, perhaps! 

Daw Eto Haul gan Geraint Lewis
Adolygiad Grahame Davies o Daw Eto Haul gan Geraint Lewis, Gwasg Carreg Gwalch, 2003, £5.95, tt 332. 


Gadewch inni fod yn onest, nid yw llenorion Cymraeg yn dda iawn am drafod rhyw. 
Iawn, roedd gennym ganu maswedd yr oesoedd canol. Ond beth oedd hynny ond rhyw ymdrybaeddu mewn golwg fudr ar ryw fel gwrthgyferbyniad - digon dealladwy - i gaethiwed moesoldeb rhywiol crefyddol. 

Doniol nid aeddfed
Ie, roedd yn ddigon hwyliog, wrth gwrs, ac fe gewch ei debyg mewn darlleniadau a stompiau led-led Cymru o hyd lle gwelir rhyw fel rhywbeth i chwerthin amdano, rhywbeth drwg i sôn amdano gan longyfarch eich hun ar eich hyfdra. 
Doniol, siwr iawn, ond agwedd aeddfed? Go brin. 

Efallai fod hyn oll ond i'w ddisgwyl mewn gwlad lle y cysylltwyd y Gymraeg ers canrifoedd â chrefyddoldeb ac â moesoldeb o fath digon ceidwadol. 

Gyda'r fath gefndir, hyd yn oed yng ngwaith llenorion Cymraeg cyfoes mae ymdriniaethau â'r pwnc yn aml yn cwympo i wahanol faglau: agweddau rhywiaethol cyntefig; telynegu swil a choeglyd; ymgeisiau hunan ymwybodol i roi sioc. 
Symptomau gwahanol, ond yr un clefyd. 

Medru trin y pwnc
Dyna pam roedd darllen Daw Eto Haul, yn gymaint o awyr iach. Nid bod agweddau'r cymeriadau at ryw bob amser yn gymeradwy ond bod yr awdur ei hun, o leiaf, i'w weld yn medru trin y pwnc heb goegni, gor-ymdrech neu embaras. 

Yr hyn a geir yw hanes Bryn James, dyn sengl ar drothwy ei ddeugain oed, yn byw ar gyrion bywyd y cyfryngau yng Nghaerdydd, ac yn llusgo o un garwriaeth fethiannus i'r nesaf. 

Câi lawer o helyntion wrth geisio gwella ei fyd yn economaidd, ac wrth geisio dod o hyd i berthynas foddhaol â merch. 

Fel rhyw fath o gorws i'w ymdrechion mae ei griw o ffrindiau o'r cwis tafarn rheolaidd, tri dyn sydd yn ymgorffori agweddau gwrywaidd gwahanol tuag at fenywod. Ganddyn nhw y mae Bryn yn derbyn cyngor, her a thynnu coes. 

Caerdydd campus
Mae'r darlunio ar fywyd Caerdydd yn gampus - nid dim ond bywyd Cymraeg Caerdydd, sydd yn darged eithaf hawdd a chyfarwydd, ond Caerdydd y ddinas fel y cyfryw. 

Dyma agwedd arall ar yr aeddfedrwydd y soniais amdani. Mae'r awdur yn aml iawn i'w weld yn trigo yng Nghaerdydd fel cartref nid fel rhyw fath o barc-thema o ddyheadau cenedlaethol wedi ei boblogi gan stereodeipiau o'n hagweddau cymunedol. 

Dyna un o gryfderau mawr y nofel hon, ac fe anesmwythais ar yr ychydig adegau pan oedd yr awdur wedi ildio i'r demtasiwn o roi llinyn mesur ar bwnc Cymreictod, boed yng Nghaerdydd neu yn ei dref enedigol Tregors. 

Gwn fod y cloriannu diddiwedd ar ein cyflwr yn rhan o'n bywydau yn y ddinas ac yn y wlad fel ei gilydd, a gwn fod modd dadlau dros gynnwys y fath olygfeydd ar sail y ffaith mai dyna'n union y math o drafodaethau a geir ymysg cymeriadau o'r fath. Ac mae Geraint Lewis yn ymdrin â'r pwnc mewn modd chwareus a sylwgar. 

Ond mae cymaint o awduron yn delio gyda'r pwnc hwn, gwell gen i fyddai gweld Geraint Lewis yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n unigryw iddo, sef y darlunio gonest a threiddgar ar y psychegwrywaidd yng nghyd destun bywyd dinesig. 

Brathog a doniol
Yn y maes hwnnw mae'n feistraidd. Cefais fy atgoffa o waith Nick Hornby a Tony Parsons yn Saesneg. Mae sylwadau brathog a gwirioneddol ddoniol yn britho'r tudalennau. Rwyf wedi darllen rhai nofelau Cymraeg yn ddiweddar, rhai cyhyd âDaw Eto Haul, lle mae'n amlwg fod yr awdur wedi bodloni ar draethu'r naratif yn bedestraidd o un olygfa i'r llall heb deimlo'r angen i fywiogi'r hirdaith gyda'r un sylw crafog neu wreiddiol. 

I be mae llenor yn dda os nad i gynnig sylwadau mwy treiddgar a chofiadwy nag a geir yn eich papur bro? 

Nid felly Geraint Lewis. Mae'n afradu sylwadau bachog a thrawiadol drwy'r gyfrol, ac mae'n ddigon hyderus i gladdu ambell un fel nad yw'r clyfrwch ond yn gwawrio ar y darllenydd yn dawel bach. 

Ni cheir dim o'r slapstick noson-lawenaidd sy'n cynrychioli hiwmor mewn cynifer o nofelau Cymraeg. Rhywbeth llawer mwy celfydd a geir yma, ac eto doniolwch chwerthin-yn-uchel ydyw hefyd. 

Carwn ddyfynnu rhywfaint er mwyn rhoi blas, ond anodd fyddai gwneud hynny gan fod llawer o'r sylwadau mwyaf cryno yn rhai y byddai'n anodd eu harddangos ar y cyfrwng hwn. 

Cyfoes, credadwy ac aeddfed
Bodlonaf ddweud imi gael mwynhad mawr gyda'r nofel hon, gan ei darllen mewn un diwrnod, er gwaetha'r ffaith mai dros 300 o dudalennau ydyw. Mae'n gyfoes, yn real, yn gredadwy, yn aeddfed ac yn llawn blas y ddinas. 

Fel y dywedais, 'dyw agwedd y cymeriadau at ryw ddim bob amser yn gymeradwy, ond, yn bwysicach o lawer mewn nofel, maen nhw'n gredadwy. Yn real, yn flêr, ac yn ddilys. 

Ai'r caswir yw y bu'n rhaid aros nes i ddylanwad crefydd Gymraeg farw o'r tir cyn bod modd i ryw gymryd ei le gyda gweddill y profiad dynol yn ein llên? 

Mae'n bosib. Ac mae'n biti os mai dyna oedd raid. Ond beth bynnag am y rheswm pam, yn y nofel hon, mae'r broses honno yn sicr i'w gweld wedi digwydd. A diolch byth am hynny. 

The Sun Will Rise Again by Geraint Lewis 
Grahame Davies Review of The Sun Will Rise Again by Geraint Lewis, Gwasg Carreg Gwalch, 2003, £ 5.95, pp 332. 


Let us be honest, Welsh writers aren't very good at discussing sex. 

Okay, we had the maswedd poems of the middle ages. But what was that apart from wallowing in a dirty oppositional way - though easily understandable - to the restrictive sexual morals of religion. 

Funny is not mature 
Yes, it was fun enough, of course, and you'll see similar readings and stomps all over Wales and there are still areas where sex is seen as something to laugh about, even something subversive to talk about and congratulate yourself on your boldness. 
Funny, sure, but a mature approach? Probably not. 

The cover of the book
Perhaps all this is to be expected in a country where Welsh was for centuries connected with a narrow, conservative religiosity and morality. 

With such a background, even in the work of contemporary Welsh writers, approaches to the topic often fall into different traps: the primitive sexist attitudes; sarcastic lyricism; self-conscious attempts to shock. 
Different symptoms, but the same disease. 

Able to treat the subject 
That's why reading The Sun Will Rise Again is such a breath of fresh air. Not that the characters' attitudes to sex are always approved but that the author himself, at least, seems to be able to handle the issue without sarcasm, excessive effort or embarrassment. 

What emerges is the story of Bryn James, a single man on the eve of his forty years old, living life on the edge of the media in Cardiff, and dragged from one broken romance to the next. 

We follow him as he has many adventures in trying to improve his world economically, and in trying to find a satisfactory relationship with a female. 

As a kind of chorus to his efforts we meet a group of friends from his regular pub quiz team, three men who embody three different male attitudes towards women. Bryn accepts their various advice and challenges, with a great deal of leg pulling along the way. 

Wonderful Cardiff
The depiction of life in Cardiff is wonderful - not only Welsh-language Cardiff, which would have been an easy and familiar target, but the city of Cardiff as a whole. 

This is another aspect of the maturity that I mentioned. The author often seems to be living in Cardiff as a home not as some kind of theme-park of national aspirations that has been populated by stereotypes of our community attitudes. 

That is one of the great strengths of this novel, and I felt discomfort on the few occasions when the author has given way to the temptation to put a yardstick on the subject of Welsh identity, whether in Cardiff or in his hometown Tregors. 

I know that the endless evaluation on our state is part of our lives in the city and country alike, and I know that it is possible to argue for including such scenes based on the fact that that is precisely the kind of discussions found among such characters. And Geraint Lewis deals with the subject in a playful and attentive way. 

But there are so many authors dealing with this subject, I would prefer to see Geraint Lewis focus on what is unique to him, the honest and insightful illustration of the male psyche in the context of civic life. 

Biting and funny 
In that area he is masterly. I was reminded of Nick Hornby and Tony Parsons in English.
Truly funny and biting comments fill the pages. Welsh novels, some that I've read recently, some as long as The Sun Will Rise Again, have a tendency where the author has settled on a pedestrian narrative from one scene to another without feeling the need to invigorate the trek with one abrasive or original comment. 

Why bother writing at all if not to comment more incisively and memorably than that which is found in your local paper? 

Not so Geraint Lewis. He lavishes pithy and memorable sound bites throughout the book, and is confident enough to bury a few too so that the cleverness only dawns on the reader gradually. 

There is no noson lawen slaptick present, which passes for humour in so many Welsh novels. Something much more stylish and artful is found here, though it's still laugh out loud funny too. 

I would like to quote in order to give some flavour of the work, but many of the comments are so concise in context that it would be difficult to do justice to them in this medium. 

Current, credible and mature 
Suffice to say I had great enjoyment with this novel, reading it in one day, despite the fact that it is over 300 pages. It is contemporary, real, credible, mature and full of the flavour of the city. 

As I said, some aspects of the characters are not always admirable, but, much more important in a novel, they are credible. They are real, messy, and valid. 

Is it an awkward truth that we had to wait until the influence of Welsh religion had died from some of the land before it could be replaced with the rest of the human experience in our literature? 

It is possible. And it's a pity if that was necessary. But whatever the reason, in this novel, that process will certainly appear to have occurred. And thank goodness for that. 
Comments